Ailgynnau ail ffwrnais Tata ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae cwmni dur Tata wedi dechrau defnyddio ei ffwrnais newydd ym Mhort Talbot.

Mae cwmni Tata wedi dechrau defnyddio'r ffwrnais newydd yng ngwaith dur Port Talbot.

Roedd y prosiect i ailadeiladu un o'r ddwy ffwrnais ar y safle wedi costio £185 miliwn.

Yn ôl y cwmni, bydd y ffwrnais yn fwy effeithlon ac yn golygu bod yn fwy hyblyg wrth ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn y DU a gweddill Ewrop.

Mae profion cynnar wedi'u cynnal ar Ffwrnais Rhif 4 dros y dyddiau diwetha' ac mae disgwyl y bydd hi'n gweithio'n llawn cyn diwedd yr wythnos.

Bydd yr haearn tawdd o'r ffwrnais yn cael ei droi'n ddur ar gyfer y diwydiannau adeiladu, ceir, codi a chloddio, offer domestig a phecynnu.

Mae'n amser anodd i'r diwydiant dur ar hyn o bryd ac mae'r safle ym Mhort Talbot yng nghanol y cyfnod mwya' o ddiswyddiadau mewn dros 20 mlynedd.

Bydd y ffwrnais newydd yn golygu cynhyrchu dwywaith gymaint o ddur - dros bedair miliwn tunnell bob blwyddyn.

'Pob tywydd'

Dywedodd Karl Köhler, prif weithredwr Tata yn Ewrop: "Mae'r gwaith adeiladu wedi bod yn fuddsoddiad pwysig iawn, yn rhan o'n strategaeth i fod yn gystadleuol yn y tymor hir yn y DU, Ewrop ac ar draws y byd.

"Bydd effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y ffwrnais newydd yn cyfrannu'n helaeth at ein hymdrechion i greu cwmni Ewropeaidd sy'n gallu gweithio ym mhob tywydd."

Dywedodd y cwmni eu bod wedi manteisio ar "gyfnod tawel" yn y farchnad ddur er mwyn cwblhau'r prosiect.

"Bydd aildanio'r ffwrnais yn ein helpu i wella'n perfformiad o ran darpariaeth i'n cwsmeriaid ond byddwn yn parhau i reoli'n allbwn i gydfynd â gofynion y farchnad," ychwanegodd Mr Köhler.

Cafodd Ffwrnais Rhif 4 ei dadgomisiynu fis Gorffennaf y llynedd cyn cael ei hailadeiladu'n llwyr, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddara'.

'Balchder a gobaith'

Y nod oedd creu ffwrnais "gyda'r fwya' effeithlon yn y byd" o ran safonau diogelwch a defnydd o ynni.

Bydd y cynllun yn elwa ar brosiect ynni newydd ar y safle ym Mhort Talbot fydd yn arbed 10 megawat o ynni - digon i gyflenwi 20,000 o gartrefi.

Dywedodd Michael Leahy, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Community a Chadeirydd pwyllgor dur yr undebau llafur yn y DU: "Mae'n destun balchder a gobaith i ddyfodol y diwydiant dur yn y DU fod y prosiect wedi'i gwblhau. Roedd prosiect y ffwrnais wedi creu nifer o swyddi i gwmnïau adeiladu lleol, gan roi hwb i economi de Cymru ar amser anodd.

"Yn y tymor hir, bydd y ffwrnais yn ddechrau cyfnod newydd i ddiwydiant cynhyrchu dur adnewyddol yn y DU."

Mae'r Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan, Dr Hywel Francis, wedi croesawu'r ffaith fod y ffwrnais newydd wedi dechrau gweithio.

Dywedodd ei fod yn "arwydd clir gan Tata fod ganddynt ffydd yn nyfodol y safle."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol