Sefydlu uned ffilm arbennig yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae uned ffilm arbennig wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd wedi i'r cyngor derbyn dros 1,000 o geisiadau i ddefnyddio'r brifddinas fel lleoliad ffilmio.
Mae strydoedd ac adeiladau'r ddinas wedi chwarae rhan bwysig yng nghynyrchiadau fel Doctor Who, Sherlock a Casualty yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cyngor Caerdydd felly wedi sefydlu'r uned gan godi tâl o rwng £100 a £200 y diwrnod i ffilmio yn y ddinas.
Yn ddiweddar mae Caerdydd wedi sefydlu ei hun fel canolfan rhagoriaeth drama, yn enwedig wedi i'r BBC agor stiwdio Porth y Rhath ar gyfer rhaglenni megis Casualty, Doctor Who, Wizards Vs Aliens a Pobol y Cwm.
Bydd yr uned yn delio gyda hawliau i ffilmio ar ffyrdd y ddinas, mewn adeiladau cyhoeddus yn ogystal â helpu materion fel cau ffyrdd dros dro.
Fel rhan o'r 'gwaith fe fydd hefyd yn hyrwyddo Caerdydd fel lleoliad ar gyfer ffilm a theledu i gwmnïau tramor.
'Angen elwa'
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, aelod y cabinet yn gyngor ar gyfer yr economi, bod yr awdurdodau yn deall pwysigrwydd denu cwmnïau ffilmio i'r economi lleol, gan greu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a thwristiaeth.
"Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod bod ganddyn nhw ddyletswydd i'r trigolion, a dylen nhw elwa o unrhyw ffilmio gyda chyn lleied o drafferthion a phosib," meddai.
"Cam bositif iawn" yw'r uned yn ôl Ieuan Morris, y cyfarwyddwr sy'n dysgu ffilm yn ysgol diwydiannau creadigol a diwylliannol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg.
"Dwi'n credu bod gan bob prifddinas ym Mhrydain uned ffilmio erbyn hyn.
"Mae'n lawer haws i gwmni cynhyrchu delio gydag un asiantaeth i drefnu ffilmio ar y strydoedd ac mewn adeiladau.
"Dwi'n credu bod Caerdydd ac ardal De Cymru yn cynnig amrywiaeth gwych o leoliadau gwahanol.
"Mae yna ddinas, y môr a'r mynyddoedd, i gyd o fewn awr o yrru o'i gilydd."
Mae'r cyngor eisoes wedi derbyn ceisiadau gan y BBC, ITV, Channel 4 a chwmnïau cynhyrchu annibynnol ym Mhrydain, Yr Iwerddon, America ac Asia.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd Comisiwn Sgrin Cymru yn gweithio gyda'r uned i helpu cynyrchiadau sy'n ffilmio ledled Cymru.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2012
- 26 Mawrth 2009