Eira'n effeithio ar ffyrdd
- Cyhoeddwyd

Mae eira wedi cwympo mewn mannau ac amgylchiadau gyrru wedi bod yn anodd.
Ond mae'r prif-ffyrdd wedi bod yn iawn.
O 6am ymlaen, meddai'r Swyddfa Dywydd, roedd rhybudd melyn mewn grym yng Nghonwy, Sir Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych, Gwynedd a Phowys.
Mae'n para tan hanner nos.
Roedd ychydig o fodfeddi yn y gogledd a rhywfaint yn siroedd Caerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Sir Fynwy.
Graeanu
Mae lorïau wedi bod yn graeanu mewn sawl ardal a dywedodd Sir Ddinbych fod y tywydd yn effeithio ar gasglu sbwriel.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai eira ac eirlaw yn lledu o'r dwyrain i ogledd Cymru a rhannau o'r canolbarth.
Dylai'r eira droi'n law yn ddiweddarach ddydd Mercher, meddai'r swyddfa.
Dywedodd cyflwynydd tywydd Radio Cymru Yvonne Evans brynhawn Mercher: "Erbyn hyn mae'r eira wedi cilio ac mae'n bwrw glaw mewn mannau.
"Mae'n gymylog ac yn niwlog, yn enwedig ar y bryniau ac mae'r gwynt ar ei gryfa' yn siroedd y gorllewin.
"Heno bydd hi'n noson wlyb a gwyntog. Dros nos bydd cyfnodau o law trwm ac fe allai achosi llifogydd."