Chwilio am ddyn yn Afon Gwy yng Nghasgwent
- Published
Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn sy' wedi cwympo i mewn i Afon Gwy yng Nghasgwent.
Heddlu Gwent, hofrennydd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf a Gwylwyr y Glannau sy'n chwilio amdano.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.46pm.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Dydyn ni ddim wedi dod o hyd iddo eto."