BBC Cymru Fyw

Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru i weithio yn San Francisco

Published
image captionUn o atyniadau amlyca'r ddinas yw Pont y Golden Gate
Bydd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn cael ei sefydlu yn Swyddfa Is-gennad Prydain yn San Francisco.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y newyddion yn ystod taith fasnach i arfordir gorllewinol UDA.
Bu'r Prif Weinidog yn ymweld â Swyddfa'r Is-gennad i gadarnhau y bydd aelod o staff Llywodraeth Cymru yn cael ei leoli yn yr adeilad ac y byddai'r aelod hwnnw'n cydweithio'n agos â thîm Masnach a Buddsoddi'r DU yn y ddinas.
Y bwriad fydd denu masnach a buddsoddwyr i Gymru.
Mae hyn yn ychwanegu at y gynrychiolaeth sydd gan Gymru yn yr Unol Daleithiau yn barod, yn Efrog Newydd ac yn Washington DC.
Yn ôl y llywodraeth, mae masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru yn tyfu - roedd y ffigwr yn £3.3 biliwn yn 2012.
Mae 18 o gwmnïau o Gymru wedi ymuno â'r Prif Weinidog ar y daith fasnach i geisio adeiladu ar hynny.

'Pont'

Dywedodd Mr Jones: "Mae San Francisco yn gartref i un o safleoedd enwocaf y byd, y Golden Gate Bridge.
"Mae modd i chi ddisgrifio'n presenoldeb ni yma fel pont rhwng Cymru ag economi eang Arfordir Gorllewin America.
"Mae Swyddfa'r Is-gennad yn rhoi platfform perffaith i ni allu hybu Cymru a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig i fusnesau a buddsoddwyr posib.
"Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ddenu buddsoddwyr uchel eu parch i Gymru - a gwneud hyn hyd eithaf ein gallu.
"Mae'n rhaid i ni gael ein gweld mewn marchnadoedd tebyg i'r un hon yng Ngorllewin America er mwyn cyflawni'r nod hwn.
"Mae'r neges yn un syml.
"Mae Cymru ar gael i chi fel gwlad ragorol i leoli'ch cwmnïau. Bydd croeso mawr yn eich disgwyl yno."

Straeon perthnasol

  • Ceisio marchnadoedd newydd