Canllawiau ar wregysau diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgolFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am wregysau diogelwch ar fysiau ysgol

Mae canllawiau ar wregysau diogelwch ar fysiau ysgol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher.

Bydd gwregysau diogelwch yn orfodol ar fysiau ysgol yng Nghymru o 2014.

Bydd y canllawiau'n nodi'r hyn y dylai awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, a gweithredwyr bysiau ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.

Mae'r Mesur yn ei wneud yn orfodol i wregys diogelwch gael ei osod ym mhob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer cludiant i ddysgwyr.

Bydd hyn yn sicrhau bod pob plentyn yn cael sedd benodedig iddo'i hun ac yn cael ei ddiogelu gan wregys diogelwch - gan roi terfyn i bob pwrpas ar ganiatáu i dri phlentyn eistedd mewn dwy sedd.

Yr Heddlu a'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr fydd yn gorfodi'r Rheoliadau.

Gallai gweithredwyr fydd yn methu â chydymffurfio wynebu erlyniad troseddol a gofod talu dirwy o hyd at £2,500.

Yr awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a gweithredwyr bysiau sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwregys yn cael ei osod ym mhob bws, gan gynnwys pob bws mini a phob coets a ddefnyddir ar gyfer cludiant penodedig rhwng y cartref a'r ysgol a hynny o fis Hydref 2014.

Trwy gyhoeddi'r canllawiau yn awr, y nod yw y bydd digon o amser ar gael i gynllunio'n effeithiol ar gyfer cyflwyno'r gofynion diogelwch newydd.

'Cynllunio'n iawn'

Dywedodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Carl Sergeant: "Rhywbeth y dylai pob rhiant a phlentyn ysgol ei ddisgwyl yw diogelwch ar fysiau ysgol.

"Bydd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i fysiau ysgol ddarparu gwregysau diogelwch i bob plentyn yn unigol a bydd canllawiau'n helpu awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i gynllunio'n iawn am y newid arfaethedig."

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Stuart Cunningham-Jones ei ladd wrth deithio adref o'r ysgol

Pan basiwyd y Mesur yn 2011, un oedd yn croesawu'r newid oedd David Cunningham Jones, tad Stuart, y disgybl 12 oed fu farw mewn damwain bws ysgol ym Mro Morgannwg yn 2002.

Dywedodd Mr Jones yn 2011: "Rydym wedi bod yn ceisio cael gwregysau diogelwch ar gyfer pob plentyn ar fws ysgol ers peth amser felly rydyn ni'n hapus iawn bod hynny'n rhan o'r mesur newydd".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol