Uwchgynghrair Blue Square Bet

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Henffordd 0-1 Wrecsam

Casnewydd 2-0 Mansfield

Mae Wrecsam yn gyfartal o ran pwyntiau â Grimsby ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet ar ôl maeddu Henffordd.

Cic rydd gan Jay Harris wedi 32 munud oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn Edgar Street.

Fe wnaeth Casnewydd faeddu Mansfield 2-0.

Sgoriodd yr asgellwr Andy Sandell gyda chic o'r smotyn wedi 66 munud a sicrhaodd y blaenwr Christian Jolley y fuddugoliaeth trwy sgorio wedi 78 munud.