Rheilffordd: 'Plant yn peryglu eu bywydau' yn Sir Gâr
- Published
Mae plant yn peryglu eu bywydau wrth groesi cledrau rheilffordd i fynd i fwyty bwyd brys yn Sir Gâr, yn ôl yr Heddlu Trafnidiaeth.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau fod plant mewn gwisg ysgol yn croesi'r rheilffordd ym Mhensarn, Caerfyrddin, a'i defnyddio fel llwybr brys
Maen nhw hefyd wedi cael adroddiadau fod pobl yn cerdded eu cŵn ar y cledrau ger gorsaf Llangennech.
Dywedodd yr heddlu y gallai'r "digwyddiadau arwain at ganlyniadau arswydus".
Yn ôl y Cwnstabl Dai Maynard yng Nghaerfyrddin: "Fy mhryder i yw nad yw'r bobl hyn yn hollol ymwybodol o'r perygl y maen nhw'n ei wynebu.
"Mae'r rhain yn ddigwyddiadau pryderus iawn ac rwy'n ofni y gallai rhywun gael ei niweidio'n ddifrifol neu gael ei ladd os na fydd y digwyddiadau hyn yn dod i ben."
Dywedodd yr heddlu mai eu prif nod yw diogelu'r cyhoedd ond y gallai unrhywun sy'n tresmasu ar y cledrau gael hysbysiad cosb o £50.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Chwefror 2013
- Published
- 16 Ionawr 2013
- Published
- 4 Tachwedd 2012