Treisio: Dyn 22 oed yn euog
- Cyhoeddwyd
Cafwyd dyn gyfaddefodd iddo gipio a threisio merch ysgol mewn coedwig yn Sir y Fflint yn Awst yn euog o gyhuddiad arall o dreisio, ceisio treisio a cheisio cipio plentyn.
Fe fydd David Edgerton, 22 oed o Gei Conna, yn cael ei ddedfrydu ym mis Mawrth.Clywodd
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Edgerton wedi ceisio cipio merch ysgol yng Nghoed-llai oriau cyn iddo dreisio merch arall mewn coedwig yn y pentref ger yr Wyddgrug ym mis Awst.
Cafwyd y diffynnydd hefyd yn euog o dreisio menyw yn ei 40au yn Warrington yr un mis a cheisio treisio menyw yn ei 20au yn ei hystafell wely yng Nghei Conna yn 2009.
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes y byddai'n cael ei garcharu am gyfnod hir ac y byddai dedfryd amhenodol yn cael ei hystyried oherwydd diogelwch y cyhoedd.
Ni chynigiodd Edgerton unrhyw dystiolaeth fel rhan o'i amddiffyniad.
Straeon perthnasol
- 16 Hydref 2012
- 25 Awst 2012