Alwminiwm Môn: Yn debygol o gau?
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr cwmni Alwminiwm Môn wedi cael rhybudd fod yna "bosibilrwydd cryf" y bydd y safle'n cau.
Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu alwminiwm ar y safle, oedd yn arfer cyflogi 400, ym mis Medi 2009.
Ond mae tua 80 o staff yn dal i weithio ar y safle fel rhan o'r broses ddigomisiynu.
Dywedodd y cwmni eu bod yn ymgynghori gyda'r gweithwyr am ddyfodol y ffatri ac mae undeb Unite wedi dweud "nad yw'r sefyllfa'n edrych yn addawol".
Mae Alwminiwm Metel Môn wedi dweud bod y busnes yn wynebu "colledion sylweddol" yn sgil mwy o gystadleuaeth, cynnydd yng nghost deunydd crai a llai o alw am gynnyrch.
Dywedodd datganiad y cwmni: "Byddwn yn gwneud cyhoeddiad i'r staff a phartneriaid cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi ei wneud.
'Cyfnod anodd'
"Mae'r cwmni'n deall fod hwn yn gyfnod anodd i'r staff ac y byddwn yn dal i sicrhau fod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth ar y safle.
"Fe fyddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw gyfleoedd posib i arbed arian y mae'r undeb a chynrychiolwyr y safle yn eu cynnig."
Dywedodd swyddog rhanbarthol yr undeb, John Hamilton, y byddai mwy o gyfarfodydd yn ystod yr wythnosau nesaf cyn i fwrdd y cwmni benderfynu ynghylch dyfodol y safle.
Ychwanegodd fod y cwmni'n adolygu eu cynllun i barhau i weithredu yn y safle tan Fehefin 2014.
"Fe fyddwn ni'n cynnal mwy o drafodaethau ddydd Gwener a'r wythnos nesaf o ran y dewisiadau posib o ran diogelu'r safle ac oblygiadau cau'r safle," meddai.
Mae nifer o gynlluniau ynghylch dyfodol rhan o'r safle eisoes wedi eu cyflwyno.
Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu cartrefi gweithwyr fyddai'n adeiladu pwerdy niwclear newydd Y Wylfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd16 Medi 2011
- Cyhoeddwyd5 Awst 2011
- Cyhoeddwyd17 Mai 2011
- Cyhoeddwyd16 Mai 2011