Coleg Cymraeg: Pum swydd ddarlithio
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd yn creu pum swydd ddarlithio cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, ddydd Iau wrth lansio cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru drwy weithgaredd y canghennau.
Mae'r swyddi newydd ym meysydd Meddygaeth, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Y Gyfraith, Newyddiaduriaeth, a Gwyddorau Iechyd.
Mae'r bum ddarlithyddiaeth yn cael eu cyllido am gyfnod o bum mlynedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae'r Brifysgol yn ymrwymo i'r swyddi hyn fel rhan o'i darpariaeth graidd.
Ers 2011 penodwyd pedwar darlithydd gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o Gynllun Staffio Academaidd y Coleg. Y pedwar yw Dr Mathew Pugh (Mathemateg), Alex Jones (Y Gyfraith), Angharad Naylor (Cymraeg Ail Iaith), a Dr Huw Williams (Athroniaeth, darlithydd Cenedlaethol).
'Cyrraedd ei photensial'
Dywedodd yr Athro Patricia Price, y Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Mae'r cymorth yn galluogi'r brifysgol gyrraedd ei photensial i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
"Bwriad Prifysgol Caerdydd yw cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac o wneud hynny, sicrhau fod ein myfyrwyr yn medru cyfrannu er lles cymdeithasol ac economaidd Cymru.
"Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys datblygu sgiliau proffesiynol a chyfathrebu galwedigaethol cyfrwng Cymraeg: drwy ffocysu ar ofal iechyd, y gyfraith a meysydd proffesiynol / galwedigaethol eraill hyderwn y byddwn yn gweithio er budd pobl Cymru".
Ychwanegodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg; "Mae cynllun staffio'r Coleg yn darparu arian sylweddol i'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gyflogi staff academaidd ac i feithrin darlithwyr o'r radd flaenaf sy'n adnabyddus am flaengarwch a rhagoriaeth ym maes addysgu ac ymchwil.
"Hyderwn y bydd y buddsoddiad hwn yn cynnig cyfle euraidd i ehangu a datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf i fyfyrwyr".
Straeon perthnasol
- 20 Medi 2012
- 24 Tachwedd 2011
- 10 Hydref 2011
- 23 Hydref 2011
- 4 Hydref 2011
- 26 Medi 2011
- 20 Rhagfyr 2010