Cefnogwr rygbi: Archwilio'r dyfroedd ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ben ThompsonFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd, Caerdydd, am 7:17pm nos Sadwrn, Chwefror 2, 2013

Fe fydd timau tanfor arbenigol yr heddlu yn dechrau archwilio'r dyfroedd ym Mae Caerdydd ddydd Iau er mwyn ceisio dod o hyd i ddyn sydd ar goll.

Cafodd Ben Thompson, 34 oed o Hwlffordd, Sir Benfro, ei weld yn crwydro strydoedd Caerdydd wedi gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 2.

Roedd yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gêm ac fe gafodd ei weld gan ffrindiau am y tro olaf yn Lôn y Felin tua 6.30pm.

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i gyfeiriad Lawrenny Avenue am 7.17pm.

Mae'r lluniau yn ei ddangos funudau wedyn yn cerdded i lawr diwedd y ffordd tuag at dir diffaith.

Dros y penwythnos roedd timau'n chwilio'r ardal, yn benodol y goedwig, Afon Elái a chyffiniau'r A4232.

Cefnogaeth

Ffynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mr Thompson yn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2

Dywedodd y Prif Arolygydd Eddie Ough: "Mae'r chwilio yn parhau ac rydym mewn cysylltiad cyson gyda theulu Ben, sy'n naturiol yn bryderus.

"Mae swyddog arbenigol yr heddlu gyda nhw."

Mae Mr Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt byr brown a llygaid glas.

Roedd yn gwisgo esgidiau mawr brown, jîns glas a chrys gwyn gyda streipen las denau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, dylid cysylltu gyda'r heddlu yng Ngorsaf Bae Caerdydd ar 02920 338 465.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol