BBC Cymru Fyw

Snwcer: Dale yn colli o drwch blewyn i Trump

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionFe fydd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yn y rownd nesaf
Ni fydd Dominic Dale yn ymuno â Matthew Stevens yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru gan iddo golli o drwch blewyn i Judd Trump.
Collodd Dale 4-3 i Trump er bod y Cymro ar y blaen o dair ffrâm i un ar un adeg.
Matthew Stevens yw'r unig Gymro i gyrraedd ail rownd y bencampwriaeth hyd yn hyn.
Fe fydd yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yr ail rownd.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1 (ddydd Mercher)
Dominic Dale 3-4 Judd Trump (Lloegr)
Rownd 1 (ddydd Mawrth)
Matthew Stevens 4-2 Liang Wenbo (China)
Rownd Ragbrofol (ddydd Llun)
Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)
Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)
Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)
Matthew Stevens 4-2 Alfie Burden (Lloegr)
Dominic Dale 4-1 Daniel Wells

Straeon perthnasol

  • Matthew Stevens yn curo Liang Wenbo i gyrraedd yr ail rownd