Snwcer: Williams yn colli i Milikin
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire ddydd Iau
Matthew Stevens yw'r unig Gymro ar ôl ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ar ôl i Mark Williams golli nos Fercher.
Cafodd y cyn-bencampwr byd ei drechu o 4-1 gan Robert Milikin o Loegr.
Stevens yw'r unig Gymro i gyrraedd ail rownd y bencampwriaeth.
Fe fydd yn herio'r Albanwr Stephen Maguire brynhawn dydd Iau.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1 (ddydd Mercher)
Mark Williams 1-4 Robert Milikin(Lloegr)
Dominic Dale 3-4 Judd Trump (Lloegr)
Rownd 1 (ddydd Mawrth)
Matthew Stevens 4-2 Liang Wenbo (China)
Rownd Ragbrofol (ddydd Llun)
Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)
Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)
Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)
Matthew Stevens 4-2 Alfie Burden (Lloegr)
Dominic Dale 4-1 Daniel Wells
Straeon perthnasol
- 13 Chwefror 2013
- 12 Chwefror 2013
- 12 Chwefror 2013
- 11 Chwefror 2013
- 20 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol