Cwest gweithiwr gofal o'r Bermo: Rheithfarn agored
- Cyhoeddwyd
Cofnodwyd rheithfarn agored yn achos gweithiwr gofal 29 oed fu farw yng Ngwlad Thai.
Roedd Jamie Campbell o'r Bermo a bu farw mewn lle gwely a brecwast yn 2010.
Nid oedd patholegydd o Brydain yn gallu dweud beth oedd achos y farwolaeth.
Yn Llangefni dywedodd y crwner Nicola Jones: "Rydan ni wedi gofyn i awdurdodau Gwlad Thai am ganlyniadau gwenwyneg.
"Does dim ymateb wedi bod.
"Os daw gwybodaeth neu dystiolaeth i'r fei, mi wnawn ni ailagor y cwest."