FIFA: Cymru yn codi 13 lle
- Published
image copyrightGetty Images
Mae Cymru wedi codi 13 lle ar restr detholion y byd.
Yn rhestr y corff rheoli pêl-droed, FIFA, mae Cymru wedi codi i rif 68, bedwar lle yn is na'r Alban sydd yn yr un grŵp â nhw yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan Pêl-droed y Byd 2014.
Bydd Cymru'n herio'r Alban oddi-cartref yn eu gêm nesaf ar Fawrth 22 cyn chwarae yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty yn Abertawe bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Yn ôl rhestr FIFA, mae Croatia yn y nawfed safle ar hyn o bryd.
Y timau eraill yng ngrŵp Cymru yw Gwlad Belg, Serbia a Macedonia.
Mae Gwlad Belg heb symud o'r 10fed safle ond mae Serbia wedi codi un safle i rif 36 ac mae Macedonia wedi codi pum safle i 83.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Chwefror 2013
- Published
- 7 Tachwedd 2012
- Published
- 17 Hydref 2012
- Published
- 12 Hydref 2012
- Published
- 11 Medi 2012
- Published
- 7 Medi 2012
- Published
- 5 Hydref 2012
- Published
- 4 Medi 2012
- Published
- 3 Medi 2012
- Published
- 31 Awst 2012
- Published
- 29 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol