£250,000 i chwe chynllun Ardal Adfywio Môn a Menai
- Cyhoeddwyd
Bydd chwe chynllun i wella cymunedau yn Ynys Môn a gogledd Gwynedd yn rhannu bron i £250,000 o arian adfywio.
Dyma'r cyllid diweddaraf o dan Raglen Ardal Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wrth gyhoeddi'r arian: "Diogelu ein hamgylchedd naturiol yw nod y prosiectau gwyrdd, gan roi hwb i les pobl leol a chreu rhagolygon gwell i'r economi leol."
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Môn a Menai oedd yr ail Ardal Adfywio Strategol yng Nghymru yn 2008.
Ers hynny mae dros 200 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a £26 miliwn wedi ei neilltuo yno.
Prynu capel gwag
Mae Grŵp Cymunedau'n Gyntaf Llangefni - Partneriaeth Ward Tudur wedi cael grant o £60,000 ar gyfer creu cyfleuster cymunedol yn Llangefni.
Y gobaith yw prynu capel gwag a'i droi'n ganolfan gymunedol.
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael £45,000 i ailwampio cyfleusterau maes parcio traeth Cemais sydd wedi bod ar gau am dair blynedd oherwydd problemau draenio a llygredd.
Cymeradwywyd cais am hyd at £53,000 gan Wasanaeth Cefn Gwlad Gyngor Gwynedd i orffen cynllun Lôn Las Menai.
Nod y prosiect yw creu llwybr di-draffig 1 cilomedr o hyd rhwng Caernarfon a Bangor.
Bydd y llwybr hefyd yn sicrhau bod modd cyrraedd y ganolfan iechyd newydd sy'n cael ei hadeiladu yn y Felinheli yn ddiogel.
Hefyd mae Cyngor Gwynedd wedi cael £35,000 i wella'r Stryd Fawr yn Llanberis.
Pecyn cymorth
Un o'r amcanion yw gwella'r llwybrau troed a gosod raciau ar gyfer beiciau er mwyn sicrhau bod yr atyniad poblogaidd hwn yn agored i bawb.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn datblygu pecyn cymorth i helpu busnesau yn y pentref.
Mae'r cyngor wedi llwyddo i gael £25,000 i ddatblygu Plas yr Esgob fel Amgueddfa ac Oriel newydd Gwynedd.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y prosiect.
Cymeradwywyd cais am hyd at £25,000 gan Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai i roi ar waith gynigion carbon isel/arbed ynni.
Bydd y gwaith yn cael ei ariannu ar y cyd â Chwaraeon Cymru.
Straeon perthnasol
- 13 Tachwedd 2012
- 11 Tachwedd 2012
- 21 Medi 2012
- 17 Tachwedd 2011
- 24 Ionawr 2011
- 17 Hydref 2008