Pro12: Noson gymysg i'r rhanbarthau
- Published
Caeredin 16-17 Y Gleision
Roedd y fuddugoliaeth i'r Gleision ym Murrayfield yn golygu mai dyma bumed colled Caeredin yn olynol yn y Pro12.
Cais gan Mike Paterson helpodd y Gleision i arwain 14-6 ar yr egwyl.
Croesodd WP Nel dros Gaeredin ar ôl yr egwyl ac fe roddodd giciau Gregor Hunter a Harry Leonard eu tim ar y blaen.
Ond pan giciodd Rhys Patchell ei bedwaredd cic gosb, fe sicrhaedd y fuddugoliaeth i'r Gleision.
Dreigiau 3-60 Glasgow
Sgoriodd Glasgow wyth cais wrth chwalu'r Dreigiau yn Rodney Parade.
Croesodd Mark Bennett, Niko Matalawu a Alex Dunbar yn yr hanner cyntaf, a Taylor Paris, Josh Strauss, Scott White a Tim Swinson (2) yn yr ail.
Trosodd Duncan Weir bum gwaith gan hefyd lwyddo gyda dwy gic gosb.
Un gic gosb gan Tom Prydie oedd unig sgôr y Dreigiau. Hon oedd eu colled fwyaf erioed yn y gynghrair.
Connacht 22-10 Y Gweilch
Daeth siom i'r pencampwyr, Y Gweilch, yn yr Iwerddon.
Faloon sgoriodd gais y Gweilch gyad throsiad, cic gosb a chic adlam gan Parks.
Daeth pwyntiau'r Gweilch o gais gan Fotuali'i a throsiad a chic gosb gan Matthew Morgan.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Hydref 2012