'Tân sylweddol' mewn ffatri yn Wrecsam
- Published
Mae diffoddwyr wedi taclo "tân sylweddol" mewn ffatri sy'n cynhyrchu dur gwrthstaen ar stad ddiwydiannol Wrecsam.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r safle yn Ffordd Yr Abaty am 11.52pm nos Wener.
Roedd criwiau o Wrecsam, Johnstown, Bwcle, Yr Wyddgrug, Llangollen a Glannau Dyfrdwy wedi eu galw i'r safle.
Dywedodd Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, bod system larwm awtomatig wedi arwain at y system taenellu yn dod ymlaen.
"O ganlyniad cafodd y tân ei gyfyngu i ardal y storfa er bod y llawr cyfan wedi ei effeithio gan fwg.
"Roedd gwaith sydyn y criwiau yn golygu bod y tân wedi ei atal rhag lledu ymhellach."
Mae swyddogion yn ymchwilio i achos y tân.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol