Buddugoliaeth i Lanelli wrth i Fangor gael gêm gyfartal gyda Phort Talbot
- Cyhoeddwyd
Ar ôl dwy gêm nos Wener roedd 'na ddwy gêm arall yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn.
Port Talbot 1-1 Bangor
Pwynt yr un gafodd y ddau dîm ar ôl i Chris Simm ddod â Bangor yn gyfartal yn yr ail hanner.
Roedd Bangor wedi methu sawl cyfle yn yr hanner cynta' ar ôl i James Bloom roi'r tîm cartref ar y blaen.
Dydi Bangor ddim wedi ennill yn naw gêm ddiwethaf.
Y Drenewydd 1-2 Llanelli
Y Tîm cartref aeth ar y blaen wrth i Luke Boundford ganfod y rhwyd wedi 37 munud.
Ond roedd Llanelli wedi dod yn gyfartal cyn yr egwyl gydag ergyd lwyddiannus Steffan Lloyd.
Saith munud cyn diwedd y gêm fe rwydodd Craig Moses i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Nos Wener
Cafodd Y Bala fuddugoliaeth o 3-1 oddi cartref yn erbyn Aberystwyth.
Un o chwaraewyr Y Bala roddodd y fantais i'r tîm cartref wedi 26 munud o chwarae ar Goedlan Y Parc wrth i Tony Davies rwydo i'w gôl ei hun.
Ond o fewn 10 munud roedd wedi dod a'i dîm yn gyfartal.
Llwyddodd Lee Hunt a Stephen Brown i sgorio i'r Bala yn yr ail hanner i roi'r fuddugoliaeth i dîm Colin Caton.
Enillodd Airbus o 4-0 ar ôl teithio i Brestatyn.
Chris Budrys gafodd yr unig gôl yn yr hanner cyntaf cyn i Phil Bolland, Ian Kearney a Ryan Wade ganfod y rhwyd yn yr ail hanner i roi canlyniad pwysig i Airbus sy'n parhau yn ail ar frig y tabl y tu ôl i'r Seintiau Newydd.