Dwy gôl i Fraizer Campbell wrth i Gaerdydd yn ennill yn erbyn Brisol City
- Published
Caerdydd 2-1 Bristol City
Gêm amser cinio i Gaerdydd a'r Adar Glas yn cael buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Bristol City.
Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi mwy o fantais i dîm Malky Mackay o 11 pwynt ar frig y Bencampwriaeth.
Sgoriodd Fraizer Campbell ddwy gôl Caerdydd, un wedi 45 munud yn yr hanner cyntaf a'r ail bron i chwarter awr ar ôl dechrau'r ail hanner.
Dyma oedd ei gôl gyntaf dros y clwb yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl arwyddo ym mis Ionawr.
Mae o bellach wedi sgorio tair gôl mewn tair gêm.
Fe wnaeth camddealltwriaeth ym munudau olaf y gêm arwain at Ben Nugent yn rhwydo i'w rwyd ei hun i roi gôl gysur i'r ymwelwyr ddychwelyd dros Bont Hafren.
Daeth gôl gyntaf Campbell wrth iddo ergydio i'r gornel ucha'.
Bygythiad
Roedd Tom Heaton, cyn-geidwad Caerdydd, wedi llwyddo i wneud sawl ergyd gampus ond llwyddodd Campbell i ergydio'i ail.
Er bod yr ymwelwyr wedi ennill tair o'r pedair gêm ddiwethaf o dan eu rheolwr newydd Sean O'Driscoll dal i wynebu bygythiad o ddisgyn y maen nhw ar ddiwedd y tymor.
Caerdydd wnaeth ddominyddu'r hanner cyntaf gyda Heaton yn gwneud yn wych i'r ymwelwyr nad oedd Yr Adar Glas ymhellach ar y blaen.
Fe wnaeth Craig Noone, Craig Bellamy a Campbell herio'r ceidwad.
Yn fuan ar ôl yr egwyl roedd gan Gaerdydd gais cry' am gic o'r smotyn, cais gafodd ei wrthod gan y dyfarnwr Eddie Ilderton.
Roedd hi'n ymddangos bod Campbell wedi cael ei ddal yn ôl gan Liam Fontaine.
Achlysurol oedd y bygythiad gan Bristol City ond roedd Liam Kelly bron a rhoi mantais iddyn nhw ar ôl iddo sylweddoli bod David Marshall ymhell oddi ar linell y gôl.
Bu'n rhaid i'r Albanwr gamu'n ôl yn gyflym cyn i ergyd Kelly fynd dros y traws.
Gwrthod ildio wnaeth yr ymwelwyr ar ôl ail gôl Caerdydd ac fe wnaeth Marshall arbediad gwych i rwystro ergyd Steve Davies rhag cyrraedd cefn y rhwyd.
Wrth iddo gael ei eilyddio gyda 18 munud o'r gêm yn weddill roedd 'na gymeradwyaeth fyddarol i Campbell gan y cefnogwyr.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Chwefror 2013
- Published
- 2 Chwefror 2013
- Published
- 19 Ionawr 2013