Chwilio am y ffotograffydd Terry Hudson yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Mae timau achub yn chwilio am ddyn 48 oed o Aberystwyth.
Dydi'r ffotograffydd lleol, Terry Hudson, ddim wedi cael ei weld ers dydd Iau.
Ar ôl cais gan yr heddlu fe gychwynnodd timau gwylwyr y glannau o Aberystwyth a Borth chwilio am Mr Hudson ddydd Gwener.
Dydd Sadwrn bu'r chwilio yn ardal Allt y Glais ac mae nifer o ffrindiau Mr Hudson wedi bod chwilio amdano nos Wener.
Dywedodd tîm gwylwyr y glannau eu bod wedi bod yn chwilio am Mr Hudson ers 2.50pm ddydd Gwener a bod bad achub Aberystwyth yn eu cynorthwyo ddydd Sadwrn.
Caiff Mr Hudson ei adnabod gan gyfeillion agos fel Pinky Marvin.
O Birmingham
Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, yn denau, gyda gwallt du at ei ysgwyddau ac mae'n gwisgo sbectol.
Credir ei fod yn gwisgo cot ddu dros gardigan oren pan aeth ar goll.
Mae'n wreiddiol o Birmingham ond mae wedi byw yn ardal Aberystwyth ers tua 10 mlynedd.
Dywedodd un o gyfeillion Mr Hudson, Tom Payne, bod pobl wedi bod yn chwilio amdano ar hyd llwybr yr arfordir, yr afonydd a'r traethau.
"Fe adawodd ei gartref ar droed," meddai.
"Wnaeth o ddim mynd a'i allweddi na'i ffôn ac fe adawodd y ci yn y tŷ."
Dywedodd bod ei deulu a'i ffrindiau yn bryderus amdano a'u bod wedi creu tudalen ar wefan Facebook i chwilio amdano.