BBC Cymru Fyw

Scarlets yn cael buddugoliaeth yn erbyn Munster

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionOwen Williams oedd chwaraewr y gêm wedi ei gicio cywrain

Scarlets 18-10 Munster

Fe wnaeth Owen Williams serennu i'r Scarlets wrth iddyn nhw guro Munster ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y tîm o Gymru wedi codi i'r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12.

Cafodd Williams, 20 oed, holl bwyntiau'r Scarlets, pum cic gosb a chic adlam.

Dyma'r ail waith yn unig iddo gychwyn gêm yn y gynghrair y tymor yma.

I'r gwrthwyneb methodd y profiadol Ronan O'Gara dair o'i bum ymgais at y pyst ar ran yr ymwelwyr.

Doedd Munster ddim i'w weld yn gyfforddus chwaith gyda'r bêl.

Ond nhw gafodd unig gais y gêm, Denis Hurley yn croesi'n hwyr yn y gêm cyn i O'Gara ei throsi.

I'r Gwyddel enillodd ei 127ain cap dros ei wlad yr wythnos diwethaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, doedd o ddim y paratoad gorau cyn wynebu'r Alban ym Murrayfield yr wythnos nesaf.

Ond fe fydd Williams yn sicr o fod wedi cael hyder gan ei berfformiad a buddugoliaeth ei dîm.

Gorffennodd y gêm ar nodyn sur i Williams wedi iddo weld cerdyn melyn gan y dyfarnwr.

Fe wnaeth yr ymwelwyr fanteisio ar y dyn ychwanegol a arweiniodd at gais Hurley.

Dyma'r tro cyntaf i'r Scarlets ennill y ddwy gêm gynghrair yn erbyn Munster ers tymor 2004.