BBC Cymru Fyw

Lerpwl yn curo Abertawe wrth i'r Elyrch baratoi am Wembley

Published
image copyrightGetty Images
image captionSteven Gerrard gafodd gôl gyntaf y gêm, cic o'r smotyn

Lerpwl 5-0 Abertawe

Gydag Abertawe yn teithio i Wembley y penwythnos nesaf ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One roedd ganddyn nhw daith i wynebu Lerpwl ddydd Sul yn y gynghrair.

Ond mae'n debyg bod Yr Elyrch yn hanner paratoi ar gyfer y gêm honno wrth iddyn nhw gael eu curo yn Anfield o 5-0.

Roedd Michael Laudrup wedi gwneud saith newid i'w dîm a dewisodd beidio cychwyn gyda phrif sgoriwr y clwb Michu a oedd gyda Ashley Williams, Angel Rangel a Nathan Dyer ar y fainc.

Ychydig efallai fyddai wedi meddwl y byddai tîm eu cyn-reolwr yn is na nhw yn y tabl, naw mis wedi i Brendan Rogers adael Stadiwm Liberty yn yr haf.

Fe allai'r Elyrch fod wedi cael cysur o wybod cyn y gêm nad oedden nhw wedi colli'r pedair gêm ddiwethaf (ym mhob cystadleuaeth) yn erbyn Lerpwl.

Ond roedd y crysau coch yn drech na nhw ddydd Sul.

Cafodd Philippe Coutinho gyfle i gychwyn ei gêm gartref cyntaf dros Lerpwl ac roedd yn un o'r sgorwyr.

Cic o'r smotyn

Dyma un o bedwar newid wnaeth Rogers i'r tîm gollodd yn St Petersburg nos Iau gyda Daniel Sturridge, Daniel Agger a Lucas Leiva yn dychwelyd.

Roedd Lerpwl wedi methu sgorio yn y tair gêm Uwchgynghrair diwethaf yn erbyn Abertawe ond fe newidiodd hynny ddydd Sul.

Lerpwl gafodd y cyfloedd yn yr hanner cyntaf ac roedd Michel Vorm yn y gôl i Abertawe yn brysur iawn o'i gymharu â Pepe Reina.

image copyrightGetty Images
image captionKemy Agustien yn troseddu ar Luis Suarez arweiniodd at gic o'r smotyn cynta'r gêm

Un gôl a gafwyd yn yr hanner cyntaf wedi i Steven Gerrard lwyddo gyda chic o'r smotyn wedi 34 munud.

Fe wnaeth Kemy Agustien droseddu ar Luis Suarez yn y cwrt.

Er bod Vorm wedi mynd i'r un cyfeiriad, i'w gornel dde, roedd ergyd Gerrard yn gywir a methodd y ceidwad a'i harbed.

Roedd Suarez, Sturridge, Coutinho a Lucas wedi methu sawl cyfle i roi'r tîm ar y blaen cyn y gic o'r smotyn ac wedyn cyn yr hanner.

Ail hanner

Ond gyda Lerpwl wedi dominyddu'r hanner cynta' roedd Abertawe yn falch o weld yr egwyl gyda dim ond un gôl yn eu gwahaniaethu.

O fewn munud i ddechrau'r ail hanner llwyddodd y chwaraewr newydd, Coutinho, i roi'r tîm cartref ymhellach ar y blaen gyda gôl arbennig.

Ac o fewn tri munud roedd Jose Enrique wedi sgorio trydedd y cochion gyda gôl tîm gwych.

Enrique gafodd y cyffyrddiad cynta' cyn i Suarez a Sturridge basio'r bêl nol iddo a churodd Vorm gyda'i ergyd.

Curodd Suarez sawl un o chwaraewyr Abertawe i sgorio pedwaredd Lerpwl wrth i'r crysau cochion ddominyddu'r 12 munud cyntaf o'r ail hanner.

Roedd Abertawe yn dal i amddiffyn i beidio ildio mwy o goliau.

image copyrightGetty Images
image captionSuarez oedd un o bump chwaraewyr Lerpwl i sgorio yn erbyn Abertawe

Daeth Wayne Routledge ar y cae fel eilydd i Roland Lamah.

Ond fo oedd yn gyfrifol am lawio'r bêl yn y cwrt a llwyddodd Sturridge gydag ail gic o'r smotyn yn y gêm.

Daeth cyn-chwaraewr Abertawe, Joe Allen, ymlaen fel eilydd i Lerpwl am yr 20 munud olaf cyn i Nathan Dyer ddod ymlaen i Abertawe.

Daeth un arall o gyn-chwaraewyr Abertawe ymlaen i Lerpwl am y 10 munud olaf, Fabio Borini yn lle Suarez.

Ond fuodd o ddim ar y cae yn hir cyn iddo gael anaf i'w ysgwydd a gorfod gadael y cae.

Gyda phum munud ola'r gêm bu'n rhaid i Lerpwl chwarae gyda 10 dyn.

Gyda'r fuddugoliaeth mae Lerpwl wedi codi i'r seithfed safle, un yn uwch nag Abertawe a dau bwynt rhyngddyn nhw.

  • Bydd rownd derfynol Cwpan Capital One rhwng Abertawe a Bradford City yn Wembley ar Chwefror 24.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 4-1 QPR