Cannoedd mewn gwasanaeth coffa i deulu o Gasnewydd laddwyd yn Saudi Arabia

  • Cyhoeddwyd
Bilques Hayat, Mohammed Isshaq, Shaukat Ali Hayat, Abida Hayat a Saira ZenubFfynhonnell y llun, South Wales Argus
Disgrifiad o’r llun,
Bilques Hayat, Mohammed Isshaq, Shaukat Ali Hayat, Abida Hayat a Saira Zenub a fu farw yn y ddamwain

Roedd cannoedd o alarwyr yn bresennol mewn gwasanaeth coffa arbennig i gofio pum aelod o'r un teulu a gafodd eu lladd tra ar bererindod i Mecca, Saudi Arabia.

Roedd Shaukat Ali Hayat, 56 oed; ei wraig Abida, 47 oed; eu merch Saira Zenub; eu mab hynna' Mohammed Isshaq, 33 oed a'i wraig feichiog Bilques yn dod o Gasnewydd.

Bachgen blwydd oed, Mohammed Eisa Daniel, oedd yr unig un i oroesi'r ddamwain ar Chwefror 8.

Cafodd y gwasanaeth ddydd Sul ei gynnal ym mosg Jamia yng Nghasnewydd.

Priodas

Roedd y teulu wedi bod yn Saudi Arabia fel rhan o bererindod i Mecca gan Foslimaidd unrhyw adeg o'r flwyddyn, Umrah.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth eu cerbyd daro pont goncrit a mynd oddi ar y ffordd cyn glanio ben i'w waered mewn ffos.

Ffynhonnell y llun, South Wales Argus
Disgrifiad o’r llun,
Mohammed Eisa Daniel oedd yr unig un i oroesi'r ddamwain

Roedden nhw ar y ffordd i Jeddah i gyfarfod teulu.

Yn ôl adroddiadau roedd disgwyl i Saira Zenub briodi'r wythnos yma.

Cafwyd hyd i Mohammed Eisa Daniel ym mreichiau ei daid.

Roedd wedi cael anafiadau i'w ysgwydd, wedi torri ei fraich ac asennau.

Mae'n cael triniaeth bellach yn y DU.

Roedd y teulu yn adnabyddus yng Nghasnewydd drwy waith elusennol ac yn 2010 fe wnaethon nhw godi arian ar gyfer dioddefwyr llifogydd yn Pacistan.

Cafodd y pump eu claddu ym mynwent Jannat-ul-Baqi yn Medina.

Roedd tua 20 o deulu wedi hedfan yno.