Warburton a Jones yn ôl ar y fainc
- Published
Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi cyhoeddi'r garfan derfynol o 23 ar gyfer y gêm yn yr Eidal y penwythnos yma.
Roedd Howley wedi cadarnhau yr wythnos diwethaf y byddai'r 15 fydd yn dechrau'r gêm yn aros yr un peth â'r tîm a gurodd Ffrainc bythefnos yn ôl.
Ond wrth enwi ei garfan daeth y newyddion y bydd dau newid ar y fainc, gyda Sam Warburton ac Alun Wyn Jones yn dychwelyd yn lle Aaron Shingler a Lou Reed.
Dywedodd Howley: "Roedden ni wedi cyhoeddi'n barod y bydden ni'n gwobrwyo'r 15 a gurodd Ffrainc drwy gadw ffydd gyda'r un tîm ar gyfer yr Eidal.
"Mae'r tîm yn barod i fynd, ac rydym wedi ychwanegu Sam ac Alun Wyn sydd ill dau wedi gwella o anafiadau sydd yn hwb i'r garfan.
"Yn Ffrainc, fe ddangosodd y tîm benderfyniad a dycnwch, ac fe fydd angen hynny eto yn Rhufain.
"Mae'r Eidal wedi dangos eu gallu yn y gystadleuaeth eisoes, ac rydym yn ymwybodol o'r her fydd yn ein hwynebu ddydd Sadwrn."
Tîm Cymru v. Yr Eidal: Stadio Olimpico Rhufain; Dydd Sadwrn, Chwefror 23, 2013.
15 - Leigh Halfpenny (Gleision);
14 - Alex Cuthbert (Gleision); 13 - Jonathan Davies (Scarlets); 12 - Jamie Roberts (Gleision); 11 - George North (Scarlets);
10 - Dan Biggar (Gweilch); 9 - Mike Phillips (Bayonne);
1 - Gethin Jenkins (Toulon); 2 - Richard Hibbard (Gweilch); 3 - Adam Jones (Gweilch);
4 - Andrew Coombs (Dreigiau); 5 - Ian Evans (Gweilch);
6 - Ryan Jones (Gweilch, Capten); 7 - Justin Tipuric (Gweilch); 8 - Toby Faletau (Dreigiau)
Eilyddion :-
Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Craig Mitchell (Caerwysg), Alun Wyn Jones (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Chwefror 2013
- Published
- 2 Chwefror 2013