Mewn Llun: Arddangos lluniau o Gymru yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd y cwmni arwerthu Bonhams yn cynnal arddangosfa o luniau o Gymru yng Nghaerydd am y tro cyntaf dros y penwythnos gan gynnwys gwaith Syr Kyffin Williams.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys nifer o luniau Syr Kyffin gan gynnwys Llanrhwydrus, eglwys tadcu'r artist.
Mae llawer o ddarluniau Syr Kyffin yn dangos lleoliadau yng ngogledd Cymru, megis Llyn Padarn.
Yn ogystal â lluniau olew gan Syr Kyffin mae 'na hefyd gyfres o hunanbortreadau mewn ffurf cartwnau yn yr arddangosfa yn dangos yr artist mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd.
Yn yr arwerthiant fe fydd 'na waith artistiaid eraill fel gwaith Ceri Richards.
Bydd 'Penrhyndeudraeth' gan John Piper hefyd yn ran o'r arddangosfa yn ogystal â gweithiau gan Will Roberts, Gwilym Pritchard, Warren Williams, Joseph Herman, John Knapp-Fisher ac eraill.
Bydd yr arddangosfa yn adeilad Bonhams yng Nghaerdydd ar Chwefror 22 a 23 ac yna fe fydd y lluniau yn cael eu harwerthu yng Nghaer ar Fawrth 6.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol