Cerdyn cariad
- Cyhoeddwyd

Mae staff Llyfrgell Yr Wyddgrug wedi derbyn cerdyn post o ben draw'r byd ar Ddiwrnod San Ffolant eleni.
Daeth y cerdyn dienw o Perth, Awstralia, gan ddiolch i 'lyfrgell gorau'r byd' ac yn gofyn a fyddai'n bosib symud yr adeilad a'i staff draw i ben draw'r byd.
Penderfynodd un aelod o'r staff rhannu'r ganmoliaeth yma gyda'i ddilynwyr ar Twitter ar ôl i un awdur adnabyddus ddatgan ei farn ddadleuol am lyfrgelloedd.
'Dweud pethau gwirion'
Dywedodd Elin Angharad, cynorthwyydd llyfrgell Yr Wyddgrug, "Mi wnes i benderfynu tynnu llun o'r cerdyn post a'i rhoi ar Twitter ar ôl i Terry Deary, awdur Horrible Histories, ddweud pethau gwirion ar-lein yn fy marn i.
"Mae o am i lyfrgelloedd gau gan nad ydy o'n cael cymaint o bres o werthu ei lyfrau gan ein bod ni'n eu benthyg nhw i bobl.
"Roedd sawl awdur arall wedi anghytuno ac mi wnes i benderfynu efallai bydde'n neis cael rhywbeth positif am lyfrgelloedd ar-lein."
Mae tair llyfrgell yn Sir Fflint eisoes wedi cau wrth i'r cyngor geisio arbed arian dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn gynharach y mis yma, aeth drigolion Sir Wrecsam ati i godi deiseb er mwyn ceisio achub tair llyfrgell arall cymunedol.
Mae'r cerdyn post ddirgel yn dweud, yn Saesneg: "I'r llyfrgell gorau yn y byd. Y ffordd orau i wella'r lle yma fyddai mewnforio llyfrgell Yr Wyddgrug a'i staff.
"Yn eich methu chi 'gyd."
'Gwerthfawrogi'
Dywedodd Elin Angharad eu bod weithiau yn derbyn blodau a siocledi gan eu benthycwyr, ond erioed wedi derbyn gwerthfawrogiad o ddinas mor bell â Perth.
"Mae pobl yn gwerthfawrogi pan rydym yn archebu llyfrau iddyn nhw, neu yn rhoi rhai i'r neilltu gan ein bod yn ymwybodol o beth maen nhw'n ei hoffi," meddai.
"Dwi'n gweithio yn y ganolfan hanes lleol a theuluol ac mae lot o bobl yn cysylltu efo ni gan eu bod eu teulu yn dod o'r ardal yma.
"Ond dyma'r cerdyn post cyntaf fel yma i ni erioed dderbyn."
Byddai Elin a'r staff yn hapus iawn i ddarganfod enw'r ffan o Awstralia er mwyn iddynt gael diolch iddo.
Nid yw llyfrgell ac Amgueddfa'r Wyddgrug o dan fygythiad ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- 13 Chwefror 2013
- 15 Mai 2008
- 25 Chwefror 2011