Gofalwyr maeth yn rhan o ymgyrch
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor yn lansio ymgyrch proffil uchel, gyda'i ofalwyr maeth yn rhan ohoni, i recriwtio mwy ohonynt.
Nod Ymgyrch 'Gofal Caerdydd' cyngor y brifddinas yw denu gofalwyr maeth o bob math a all roi cartref i rai o'r 530 o blant sydd dan ei ofal.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys gosod posteri ar fysus ac mewn safleoedd bws, a hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol, ar y radio ac mewn papurau newydd i apelio am ddarpar ofalwyr maeth newydd.
Caiff yr ymgyrch ei lansio'n swyddogol gan y Cynghorydd Richard Cook, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, ynghyd â'r pum gofalwr sy'n rhan o'r ymgyrch ddydd Mercher yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
'Incwm wrth aros gartref'
Mae Jamie Allen, 34 oed, yn un o'r gofalwyr maeth sy'n ymddangos yn hysbysebion papur newydd yr ymgyrch. Dywedodd Jamie: "Ers cael fy magu mewn teulu a oedd yn rhoi gofal maeth, roedd awydd mawr arnaf i fod yn ofalwr maeth unwaith roedd gennyf fy nheulu fy hun.
"Rydyn ni'n ofalwyr newydd, a dim ond wedi bod yn rhoi gofal maeth ers 7 mis. Rydyn ni wedi bod yn gofalu am ferch fach newydd-anedig, ac rydyn ni wir wedi mwynhau ei chroesawu hi fel aelod o'n teulu.
"Mae bod yn ofalwr maeth wedi fy ngalluogi i gael incwm wrth aros gartref yn hytrach na mynd allan i weithio. Teimlaf fod pawb wedi cael budd o'm gweld i'n treulio mwy o amser gartref, gan ei fod yn rhoi llawer mwy o amser i ni fel teulu i fwynhau gyda'n gilydd."
'Gofidus'
Dywedodd Richard Brewer, gofalwr maeth sengl sydd i'w weld ar bosteri yn arcêd siopa Dewi Sant Caerdydd: "Dwi wedi bod yn ofalwr maeth ers ychydig dros 2 flynedd, gan ddechrau drwy ddarparu gofal seibiant ond gan symud ymlaen i fod yn rhywun sy'n gallu cynnig lleoliadau hirdymor.
"Os ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth, ffoniwch yr Adran Gwasanaethau Plant. Dyna oedd y profiad mwyaf gofidus i mi achos roeddwn yn ofni cael fy ngwrthod gan fy mod yn ddyn sengl 55 oed.
"Nid oedd angen i mi boeni, gan fod angen pobl o gefndiroedd amrywiol. Mae'r broses asesu yn drylwyr iawn, fel sy'n briodol, ond mae hyn yn eich helpu i addasu i fywyd gwahanol iawn.
"Rydych yn dewis ffordd o fyw drwy ddewis bod yn ofalwr maeth".
'Pobl gyffredin'
Dywedodd y Cynghorydd Cook: "Pobl gyffredin yw gofalwyr maeth sy'n gwneud gwaith gwych. Mae gofalwyr maeth lleol yn hanfodol i les plant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn Caerdydd.
"Mae'n golygu y gallan nhw aros yn agos at eu cymunedau a chynnal cysylltiadau pwysig â'u teulu a'r ffrindiau, ac yn aml aros yn yr un ysgol.
"Mae angen dirfawr am rieni maeth newydd, gan gynnwys rhai a all gymryd brodyr a chwiorydd fel nad oes yn rhaid eu gwahanu. Gall rhieni maeth ddod o gefndiroedd amrywiol.
"Gallan nhw fod yn bobl sengl, yn briod, wedi'u hysgaru, yn weddwon neu hyd yn oed yn deulu estynedig. Yn ogystal â hyfforddiant, mae ein holl ofalwyr yn cael llawer o gymorth a chanllawiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012