BBC Cymru Fyw

Gateshead 0-1 Wrecsam

Published
image captionY blaenwr Brett Ormerod beniodd i'r rhwyd wedi 60 munud.

Mae Wrecsam ar frig Uwchgynghrair Blue Square ar ôl cael tri phwynt gyda'i buddugoliaeth nos Fawrth yn erbyn Gateshead

Maen nhw nawr yn ddiguro mewn 13 gêm.

Y blaenwr Brett Ormerod beniodd i'r rhwyd wedi 60 munud.

Roedd rhagor o newyddion da i'r Dreigiau wrth i Grimsby, oedd ar y brig ar ddechrau'r diwrnod, golli 2-0 yn erbyn Braintree.

Straeon perthnasol

  • Uwchgynghrair Blue Square Bet

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol