Mwy yn ddiwaith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu dros y tri mis diwethaf, a hynny'n groes i'r patrwm ar draws y DU.
Yn y tri mis hyd at ddiwedd 2012, roedd 6,000 yn fwy o bobl heb waith yng Nghymru nag yn y chwarter blaenorol.
Bellach mae'r ffigwr diweithdra yng Nghymru yn 127,000, neu 7.8%.
Ar draws y DU bu cwymp o 14,000 yn nifer y diwaith.
Dangosodd yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod cyflogau yn parhau i godi yn arafach na chwyddiant.
Roedd y ffigyrau'n dangos bod cyflogau blynyddol ar gyfartaledd wedi codi 1.4% ym mis Rhagfyr. Gyda'r raddfa chwyddiant (CPI) yn 2.7% y llynedd, mae hynny'n golygu bod y cynnydd mewn cyflogau wedi bod yn llai na chwyddiant ers canol 2008.
Pobl ifanc
Roedd yna gynnydd sylweddol hefyd ar draws y DU mewn diweithdra ymysg pobl ifanc rhwng 16-24 oed.
Yn y chwarter diwethaf roedd 974,000 o bobl ifanc heb waith - cynnydd o 11,000, sef y cynnydd mwyaf ers dechrau'r llynedd.
Mewn ymateb i'r ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones:
"Tra 'mod i'n croesawu fod nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal yn dal i ostwng, mae'r cynnydd mewn diweithdra dros y chwarter diwetha' yn dangos fod yna lawer o waith yn dal i'w wneud i sicrhau bod y potensial yna ar gyfer twf, a bod yna gyfleoedd i bobl Cymru ddangos beth fedran nhw wneud.
"Roedd y cyhoeddiad yr wythnos ddiwetha' fod Virgin Media am greu 230 o swyddi yn ne Cymru'n dangos fod yna gyfleoedd i fusnesau dyfu, er gwaetha'r hinsawdd economaidd anodd.
"Mae'r ffigurau hyn yn tanlinellu pa mor bwysig ydy hi i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ac unioni'u polisïau i ddenu mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau adre' ac yn rhyngwladol."
Straeon perthnasol
- 4 Chwefror 2013
- 8 Ionawr 2013
- 12 Rhagfyr 2012
- 25 Tachwedd 2012