'Angen mwy o Gymry' ar Glwb Criced Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-fatiwr Lloegr a Gwlad yr Haf, Brian Rose, wedi ei benodi i gynnal adolygiad o griced yng Nghymru.
Yn ôl Criced Cymru y nod yw cynyddu'r nifer o gricedwyr Cymreig sy'n chwarae i Forgannwg.
Daw'r penodiad fel rhan o gynghrair strategol newydd rhwng Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg.
Bydd cylch gwaith Rose, 62 oed, yn cynnwys adolygu strwythur hyfforddi Morgannwg a llwybrau datblygu cricedwyr Cymreig.
Bydd Rose yn cyfarfod â nifer o bobl allweddol sy'n rheoli criced yng Nghymru.
Y disgwyl yw y bydd yn cyflwyno ei argymhellion cyntaf erbyn dechrau mis Ebrill.
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Alan Hamer: "Mae Brian yn uchel ei barch ym myd criced ac rydym yn hapus dros ben ei fod wedi cytuno i'n helpu."
Dywedodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: "Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r nifer o gricedwyr talentog ifanc sy'n gallu chwarae criced yn broffesiynol dros Forgannwg."
Chwaraeodd Rose naw tro dros Loegr rhwng 1977 a 1981 a bu'n gapten Gwlad yr Haf yn ystod cyfnod mwyaf llwyddiannus y sir pan fu Ian Botham, Viv Richards a Joel Garner yn rhan o'r garfan.
Bu'n cyfarwyddwr criced Gwlad yr Haf rhwng 2005 a 2012 cyn iddo benderfynu gadael y swydd ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013