Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yn Wrecsam fore Mercher.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ym Mryn Hafod yn y dref am 10:02am yn dilyn adroddiadau bod corff y fenyw wedi ei ganfod yn y tŷ.
Ar hyn o bryd mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy, ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Does dim mwy o fanylion wedi cael eu cyhoeddi gan yr heddlu hyd yma.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol