Tro pedol wrth ystyried pryderon am fesur organau?
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gallan nhw ddiwygio rôl y teulu fel rhan o gynlluniau i newid y drefn o roi organau.
Roedd y Gweinidog Iechyd yn cydnabod fod 'na bryderon ynglŷn â phwy ddylai fod â mwya' o ddylanwad ar benderfyniadau.
Roedd Lesley Griffiths yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Cynulliad ynglŷn â rôl teulu a ffrindiau wrth wneud penderfyniadau am organau unigolion wedi iddynt farw.
Mae'r cynllun dan sylw yn golygu y byddai organau unrhyw un yn gallu cael eu defnyddio ar ôl marwolaeth, oni bai eu bod wedi nodi eu gwrthwynebiad.
O dan y Mesur Drafft ar Drawsblannu Dynol (Cymru), os nad yw unigolyn wedi nodi gwrthwynebiad, gall perthynas ddweud wrth feddygon beth fyddai dymuniadau'r sawl sydd wedi marw.
Rhestr agored
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig creu rhestr agored o berthnasau a ffrindiau fyddai â'r hawl i fod yn rhan o unrhyw benderfyniadau am organau.
Gallai unrhyw un ar y rhestr roi gwybodaeth i glinigwyr petai nhw'n gallu dadlau'n rhesymol eu bod yn gwybod beth fyddai dymuniadau'r sawl sydd wedi marw.
Os nad yw teuluoedd yn ymwybodol o ddymuniad eu perthynas, yna bydd caniatâd yn dybiedig.
Dyw hyn ddim yn golygu y bydd organau'n cael eu cymryd yn awtomatig, gan y bydd gan feddygon ddyletswydd i ystyried barn y teulu.
Ond fydd gan y teulu ddim hawl cyfreithiol i atal organau rhag cael eu cymryd.
Ar hyn o bryd, mae'r system yn rhoi mwy o bwyslais ar farn perthnasau agos.
Ond wrth roi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y cynulliad ddydd Mercher, dywedodd Mrs Griffiths y byddai'n "ystyried" y problemau posib wrth sefydlu rhestr na fyddai'n dangos blaenoriaeth i unrhyw berthynas benodol.
'Diffyg tryloywder'
Dywedodd yr AC Ceidwadol Darren Millar y byddai rhestr sy'n gosod perthnasau mewn trefn yn dangos yn glir "pwy fyddai â'r gair olaf" ynglŷn ag organau'r unigolyn os nad oeddynt wedi eu heithrio o'r gofrestr rhoddwyr.
Yn ôl yr AC Llafur Mick Antoniw: "Y diffyg tryloywder sy'n fy mhoeni i a dyna'r pwynt sy'n codi o hyd gyda rhai o'r tystion rydyn ni'n clywed ganddynt.
"Roedd un o'r arbenigwyr ddaeth i roi tystiolaeth i ni'n dweud y gallai nifer y rhoddwyr ostwng petai unrhyw aelod o'r teulu'n gallu gwrthwynebu."
Clywodd ACau fod cyfreithiau hawliau dynol yn golygu fod yn rhaid rhoi cyfle i deulu a ffrindiau roi gwybodaeth os nad yw rhywun wedi eu heithrio o'r gofrestr organau.
Nod y rhestr agored - heb flaenoriaeth i berthnasau penodol - oedd "rhoi cyfleoedd eang i bobl gyflwyno tystiolaeth", meddai swyddogion.
Byddai'n berthnasol mewn sefyllfaoedd pan nad oedd unigolyn yn dod o deulu traddodiadol ac wedi rhannu eu dymuniadau gyda ffrind agos.
Ond dywedodd Mrs Griffiths: "Yn amlwg mae'r rhestr agored yn achos pryder i rai pobl ac rwy'n credu efallai bod angen i ni ystyried hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd10 Medi 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012