Holi pedwar wedi honiadau o fasnachu pobl
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio pedwar o bobl ar Lannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, mewn cysylltiad â gorfodi pobl i weithio a masnachu dynol.
Roedd yr ymgyrch wedi'i chynnal ar y cyd rhwng nifer o asiantaethau a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddau Difrifol (SOCA) a'r Groes Goch.
Y nod oedd sefydlu a oedd gweithwyr tramor yn ardal Glannau Dyfrdwy yn cael eu masnachu yn anghyfreithlon neu'n cael eu gorfodi i weithio.
Mae'r pedwar a gafodd eu harestio yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu yn Wrecsam.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Speed o Heddlu'r Gogledd: "Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio, ac mae'r Groes Goch a Byddin yr Iachawdwriaeth wedi sefydlu canolfanau croeso ar gyfer y gweithwyr."
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2012
- 10 Hydref 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol