Galw am gystadleuwyr mewn gŵyl delyn.
- Cyhoeddwyd

Dathlu bywyd a gwaith telynor o Oes Fictoria yw bwriad gŵyl newydd sy'n chwilio am gystadleuwyr.
Mae Gŵyl Pencerdd Gwalia yn coffáu John Thomas - y telynor o Ben-y-bont ar Ogwr a ddaeth yn delynor swyddogol i'r Frenhines Victoria.
Bydd yr ŵyl yn cyd-fynd â chanmlwyddiant marwolaeth y telynor.
Mae rhai o addasiadau Thomas o alawon Cymreig, megis "Bugeilio'r Gwenith Gwyn" a "Ffarwel y Telynor" wedi bod yn sylfaen repertoire telynorion yng Nghymru ers blynyddoedd.
Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn y dref lle ganed Thomas ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar Ebrill 13.
"Mae Gŵyl Pencerdd Gwalia yn cael ei chynnal er mwyn dathlu bywyd a gwaith un o delynorion gorau Ewrop yn y 19eg Ganrif ac i sicrhau bod ei gyfansoddiadau ar gyfer y delyn yn cael eu chwarae," meddai cadeirydd yr Ŵyl Elinor Bennett.
'Cerddoriaeth hyfryd'
"Pa well ffordd o wneud hynny na threfnu cystadleuaeth a dosbarthiadau meistr ar gyfer telynorion?
"Fel cenedlaethau o delynorion yng Nghymru, fe ges i fy magu ar addasiadau John Thomas o alawon Cymreig.
"Fe wnaeth o'u hysgrifennu er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl y tu allan i Gymru yn gwybod ac yn gwerthfawrogi'r gerddoriaeth hyfryd sydd gennym ni yma."
Cafodd y telynor ei eni yn fab i deiliwr ar Fawrth 1 1826, a daeth yn un o delynorion gorau Ewrop ac yn delynor i'r Frenhines Victoria.
Bu farw ym mis Mawrth 1913 yn Llundain.
Cafodd y teitl 'Pencerdd Gwalia' (Prif Gerddor Cymru) yn Eisteddfod Aberdâr 1861 am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg.
Cystadlu a pherfformio
Mae gwobr o £1,000 ar gael i'r perfformiad gorau o gerddoriaeth gan John Thomas yn y gystadleuaeth dan 25 oed, a £500 yn y categori dan 17 oed.
Bydd yr enillwyr hefyd yn cael y cyfle i berfformio yng Nghyngerdd yr Ŵyl gyda Catrin Finch a'r Delynores Frenhinol bresennol, Hannah Stone.
Bydd Catrin Finch a Katherine Thomas (Prif Delynores Opera Genedlaethol Cymru) yn beirniadu ac yn cynnal perfformiadau a dosbarthiadau meistr yn yr Ŵyl yng Nghapel Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y Delynores Frenhinol bresennol, Hannah Stone yn perfformio gyda Gary Griffiths (Bariton), Côr Capel Tabernacl ac enillwyr y ddwy gystadleuaeth.
Mae rowndiau rhagarweiniol yn cael eu cynnal ym Merthyr Tydfil ar Fawrth 23 ac yn ystod Gŵyl Delynau Caernarfon ar Ebrill 3.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mawrth 1 2013.