Llys: 'Anafiadau difrifol' ar ôl cael ei churo a'i threisio
- Cyhoeddwyd

Clywodd Llys y Goron Caernarfon dystiolaeth gan ffrind i ddynes gafodd ei darganfod yn farw mewn cist car.
Yn ôl Tracy Cottam mi gafodd Barbara Yates ei churo a'i threisio gan ei gŵr yn ei chartre' yn Warrington saith mis cyn iddi farw.
Mae John Yates, 58 oed, yn cyfadde' ei fod o wedi lladd ei wraig ond yn gwadu llofruddiaeth.
Mi wnaeth o yrru i swyddfa'r heddlu yn Llanelwy ym mis Gorffennaf y llynedd efo corff ei wraig yn ei gar.
Dywedodd Miss Cottam iddi weld Mrs Yates yn yr ysbyty gyda "anafiadau difrifol" gan gynnwys marciau ar ei gwddw a chleisiau ar ei hwyneb.
"Roedd yn drist iawn ei gweld," meddai.
"Roeddwn i'n crio, roeddwn wedi dychryn ei gweld."
Eglurodd bod cartref Mrs Yates mewn llanast.
Bag ar y soffa
"Roedd yn edrych fel bod rhywun wedi torri mewn i'r lle," meddai Miss Cottam.
"Roedd 'na wydr wedi ei dorri yn y lolfa ac roedd 'na lamp ar y llawr.
"Dywedodd Barbara mai dyna gafodd ei ddefnyddio i'w tharo."
Eglurodd Miss Cottam bod enw dyn arall ar wal y lolfa mewn coch a bod 'na fag mawr ar y soffa.
"Dywedodd Barbara mai yn y bag yr oedd John am ei roi ei chorff.
"Fe gychwynnodd ei tharo hi yn yr ystafell wely a'i thagu.
"Dywedodd Barbara wrtha i iddo rwygo ei dillad, ei thagu, ei rhyddhau, ei thagu a'i tharo dro ar ôl tro.
"Eglurodd bod John wedi ei tharo'n galed gyda rhywbeth cyn iddi gael ei thaflu i'r bath, ei gorchuddio gyda siampŵ gan ddweud ei bod yn fudur.
"Fe wnes i holi a oedd o wedi ymosod yn rhywiol arni ac fe ddywedodd Barbara, do.
"Roedd Barbara yn meddwl ei bod yn mynd i farw."
Clywodd y llys bod Mr Yates wedi cael ei arestio wedi'r digwyddiad cyn i'w wraig dynnu'r gwyn yn ôl.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Wyn Lloyd Jones, bod Mr Yates yn "dreisgar ac yn ymosodol" am flynyddoedd tuag at ei wraig.
'Ysgariad'
Pan gafodd ei arestio dywedodd Mr Yates wrth yr heddlu nad oedd o am rannu ei wraig gyda neb.
Yn ôl yr erlyniad bu farw Mrs Yates ar ôl cael ei thagu a'i tharo sawl tro.
Wrth gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, Stephen Riordan, dywedodd Miss Cottam bod Mrs Yates wedi trafod ei bywyd rhywiol gyda hi a bod 'na broblemau.
Dywedodd ffrind arall wrth y llys, Sharon Liddle o Warrington, iddi ddeall gyntaf yn 2000 bod Mrs Yates yn anhapus.
Roedd Mrs Yates wedi dweud wrthi fod 'na "broblemau enfawr" yn y berthynas gyda'i gwr a'i bod yn ystyried ysgariad.
Ychydig cyn y Nadolig 2011 roedd Mrs Yates wedi dweud wrth Mrs Liddle iddi gael ei churo gan ei gwr ar Ragfyr 1 a'i fod wedi ei tharo gyda morthwyl.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012