Dirwy am redeg lladd-dy anghyfreithlon yn Llandrindod
- Published
Mae dyn 28 oed o'r canolbarth wedi cael dirwy o £3,000, am redeg lladd-dy anghyfreithlon ar fferm ei dad.
Fe wnaeth Gareth Mills o Landrindod ym Mhowys bledio yn euog i gyhuddiad o gyflenwi bwyd a thorri rheolau hylendid bwyd yn Llys Ynadon Aberhonddu ddydd Mercher.
Derbyniodd barnwr ei fod wedi lladd anifeiliaid ar gyfer y teulu yn unig ac na chafodd y cynnyrch ei werthu i'r cyhoedd.
Canfu swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Powys cyrff wŷn yn Fferm Cefn Bronllys yn Llanddewi ger Llandrindod ym mis Rhagfyr 2011.
Clywodd y llys fod isgynnyrch anifeiliaid hefyd yno gan gynnwys bath yn llawn ysgyfaint defaid a bwcedi o bennau wŷn allai wedi lledu afiechydon.
Dywedodd Simon Warlock ar ran yr amddiffynnydd nad oedd unrhyw fwriad i ddosbarthu'r cig i wneud elw.
Ychwanegodd fod ffermwyr yn helpu ei gilydd a bod hawl ganddyn nhw i fwyta anifeiliaid eu hunain.
Honnodd Mr Mills, sydd wedi cymhwyso fel cigydd, nad oedd unrhyw fwriad i ddosbarthu'r cig i'r cyhoedd.
Dywedodd y Barnwr Rhanbarth, John Charles, ei fod yn derbyn nad oedd unrhyw fwriad i'r cig fod yn rhan o'r gadwyn fwyd.