Lluniau o Gymru mewn arddangosfa yng Nghaerdydd gan Bonhams am y tro cynta'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cwmni arwerthwyr Bonhams yn cynnal eu harddangosfa fawr gyntaf o weithiau artistiaid o Gymru yng Nghaerdydd.
Fe fydd y lluniau, sy'n cynnwys rhai o arlunwyr mwya' Cymru'r 20fed Ganrif yn cael ei gynnal bron i bythefnos cyn arwerthiant o nifer ohonyn nhw.
Ymhlith yr artistiaid y mae gwaith John Piper, Ceri Richards a Syr Kyffin Williams.
Mae'r lluniau yn amrywio o ran rhai olew, dyfrliw neu ddarluniau ac yn amrywio o ran pris rhwng £200 a £22,000.
Fe fydd yr arddangosfa o luniau yn Bonhams, Park Place Caerdydd rhwng 10am a 3pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Fe fydd yr arwerthiant yn Bonhams, Caer ar Fawrth 6.
"Ers blynyddoedd mae Bonhams wedi bod yn gysylltiedig â gwerthu darluniau Cymreig," meddai Jeff Muse, Cyfarwyddwr Rhanbarthol.
"Mae'n bleser cael cymaint o ddarnau i'w harddangos yng Nghaerdydd cyn yr arwerthiant."
Un o'r lluniau sydd ar werth yw 'Moon over Crib Goch' (lot 196), gwaith olew gan Syr Kyffin.
Mae 'na amcan bris o rwng £12,000 a £18,000, golygfa oedd mor hoff gan yr artist.
Yn ogystal mae 'na ddarluniau cartŵn wnaeth yr artist ohono ei hun.
Straeon perthnasol
- 22 Chwefror 2013