Disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Gwmni Alwminiwm Môn ynglŷn â dyfodol y safle a'r gweithwyr.
Yn ystod dydd Iau bu bwrdd y cwmni ger Caergybi yn cyfarfod i drafod dyfodol yr 80 o swyddi sy'n dal yn weddill yno.
Eisoes mae'r cwmni, un o brif gyflogwyr yr ynys, wedi rhybuddio'r gweithwyr fod cau'r safle yn bosibilrwydd cryf iawn.
Ym mis Rhagfyr 2012 fe ddechreuodd y cwmni ar gyfnod ymgynghorol gyda'r gweithlu.
Dywed y cwmni bod cynnydd mewn cystadleuaeth, cynnydd mewn costau a gostyngiad yn y galw am gynnyrch yn golygu bygythiad i'r gwaith.
Mae 400 o bobl eisoes wedi colli eu swyddi yno wedi i'r gwaith cynhyrchu ddod i ben ym mis Medi 2009
Un o'r rheini oedd Siôn Jones.
Dywed bod 'na amheuaeth dair blynedd yn ôl beth fyddai pen draw'r stori.
Dim swyddi
"Mater o amser yw hi nes mae'r lle i gyd yn cau.
"Dwn i ddim be fyddan nhw'n ei wneud efo'r safle. Golchi dwylo a mynd o 'na ma'n siŵr.
"Dydi o ddim yn deimlad neis o gwbl peidio gwybod be sy' rownd y gornel.
"Mae'n anodd cael swyddi ar Ynys Môn, dim lot o waith yma a lot o lefydd wedi cau ers pedair blynedd.
"Dwn i ddim be fydd hanes yr hogiau sy' 'na rŵan."
Ers hynny mae gwaith ail-doddi wedi parhau ar y safle.
Cydweithio
Dywed Dylan Williams, Pennaeth Datblygu Economaidd, Cyngor Sir Ynys Môn, bod angen sylweddoli fod y safle yn un allweddol.
"Mae'r safle o bwysigrwydd cenedlaethol i economi Cymru.
"Mae Llywodraeth Cymru, y cwmni, a'r cyngor sir yn cydweithio er mwyn sicrhau bod datblygiad pellach yn cymryd lle yn y dyfodol agos er mwyn rhoi cynaladwyedd tymor hir."
Perchnogion Alwminiwm Môn yw Rio Tinto Alcan a Kaiser Aluminium a sefydlwyd yn 1971.
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2011
- 24 Tachwedd 2010