Sergio Parisse wedi ei wahardd o weddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Mae capten tîm rygbi'r Eidal, Sergio Parisse, wedi cael ei wahardd am weddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cafodd Parisse ei ddyfarnu'n euog am sarhau dyfarnwr gan banel disgyblu ddydd Mercher.
Mae'r Eidal i wynebu Cymru yn Rhufain ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwald.
Cafodd Parisse ei ddanfon o'r cae ddydd Sadwrn pan oedd yn chwarae dros ei glwb Stade Français.
Derbyniodd waharddiad am 40 niwrnod, gyda 10 niwrnod wedi ei atal.
"Fe fydd Sergio Parisse yn cael chwarae eto ar Fawrth 18, 2013," meddai'r datganiad.
Roedd Parisse yn gwadu sarhau'r dyfarnwr yn ystod buddugoliaeth ei dîm yn erbyn Bordeaux-Begles.
Dydd Iau fe gyhoeddodd Yr Eidal 14 newid i'r tîm fydd yn wynebu Cymru.
Martin Castrogiovanni fydd capten y tîm yn abesnoldeb Parisse.
Tîm Yr Eidal: Andrea Masi (Wasps); Giovanbattista Venditti (Zebre), Tommaso Benvenuti (Treviso), Gonzalo Canale (La Rochelle), Luke McLean (Treviso); Kristopher Burton (Treviso), Edoardo Gori (Treviso); Andrea Lo Cicero (Racing Metro), Leonardo Ghiraldini (Treviso), Martin Castrogiovanni (Leicester, capten), Antonio Pavanello (Treviso), Francesco Minto (Treviso), Alessandro Zanni (Treviso), Manoa Vosawai (Treviso), Simone Favaro (Treviso).
Eilyddion: Davide Giazzon (Zebre), Alberto De Marchi (Treviso), Lorenzo Cittadini (Treviso), Quentin Geldenhuys (Zebre), Paul Derbyshire (Treviso), Tobias Botes (Treviso), Luciano Orquera(Zebre), Gonzalo Garcia (Zebre).