Toriadau cyngor Powys: Gohirio penderfyniad
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi gohirio pleidlais ar gynllun i ddiswyddo tua 200 o staff yr awdurdod lleol.
Mae Cyngor Powys yn ceisio arbed £30 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
Mewn cyfarfod yn Llanfair-Ym-Muallt penderfynodd cynghorwyr gohirio'r bleidlais tan Fawrth 4 neu 5.
Mae undeb Unison yn gwrthwynebu'r cynllun i dorri swyddi a allai arbed £4.8 miliwn i'r cyngor.
Gwrthwynebiadau
Roedd cabinet y cyngor wedi argymell torri 75% o grantiau cymunedol a dechrau codi tâl ar drafnidiaeth i ddisgyblion dosbarth chwech.
Ond yn dilyn gwrthwynebiadau dywed y cabinet eu bod yn awr yn bwriadu torri 25% o grantiau cymunedol gan gyflwyno'r toriadau dros gyfnod o dair blynedd.
Fe fydd cynghorwyr hefyd yn cynnal mwy o drafodaethau cyn iddynt benderfynu ynghylch dechrau codi tâl ar drafnidiaeth i ddisgyblion chweched dosbarth ai peidio.
Cyfarfu'r cyngor llawn i drafod cyllid y flwyddyn ariannol nesaf ddydd Iau ond cafodd cynnig gan y grŵp Llafur i ohirio'r penderfyniadau ynghylch y toriadau ei gefnogi gan gynghorwyr.
Dywedodd arweinydd y cyngor, ac arweinydd grŵp Annibynnol y Siroedd, David Jones: "Rwyf wastad wedi cydnabod fod gen i weinyddiaeth leiafrifol a bod yn rhaid inni wrando ar grwpiau eraill."
Dywedodd Aled Davies, sy'n rhan o'r grŵp Ceidwadol, ei fod yn anhapus bod y penderfyniad wedi'i ohirio.
Ond roedd arweinydd grŵp Cynghrair Annibynnol Powys eisoes wed codi pryderon ynghylch gwneud penderfyniadau "yn rhy gyflym".
Fe wnaeth aelod o'r grŵp Llafur, Sandra Davies, annog y cyngor i ohirio'r penderfyniad wrth i fwy o drafodaethau gael eu cynnal.
Straeon perthnasol
- 21 Chwefror 2013
- 29 Ionawr 2013
- 8 Ionawr 2013
- 4 Rhagfyr 2012