Chico Flores allan o'r rownd derfynol yn Wembley
- Published
Yn ôl y disgwyl, mae'r amddiffynnwr Abertawe Chico Flores wedi colli ei frwydr i fod yn holliach ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One yn erbyn Bradford yn Wembley ddydd Sul.
Roedd Flores, 25 oed, wedi dweud ei fod yn dal i obeithio medru chwarae er iddo gael anaf cas i'w ffêr yn y gêm yn erbyn QPR yn yr Uwch Gynghrair bron i bythefnos yn ôl.
Ond daeth cadarnhad gan reolwr Abertawe, Michael Laudrup, na fydd wedi gwella mewn pryd.
'Rhy gynnar'
Dywedodd Laudrup: "Fe geisiodd Chico gwblhau prawf ffitrwydd heddiw, ond mae'n llawer rhy gynnar iddo.
"Rwy'n amcangyfri' y bydd hi'n rhyw 4 i 8 wythnos cyn y bydd yn iawn. Mae e wedi sylweddoli heddiw fod hyn yn llawer rhy gynnar."
Datgelodd Laudrup hefyd mai Gerhard Tremmel fydd yn dechrau'r gêm yn y gôl yn erbyn Bradford.
Er mai ail ddewis yw Tremmel i Michel Vorm yn yr Uwch Gynghrair, mae Tremmel wedi chwarae ymhob rownd o'r gwpan wrth i Abertawe gyrraedd rownd derfynol un o brif gystadlaethau Lloegr am y tro cyntaf.
Mae'n ymddangos y bydd rhaid i Laudrup ddewis rhwng Garry Monk a Kyle Bartley i fod yn bartner i Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn yn absenoldeb Flores.
Monk, sy'n gapten y clwb, yw'r mwyaf profiadol, tra bod Bartley wedi chwarae pum gêm ers ymuno o Arsenal cyn dechrau'r tymor.
Yr unig dro i Bartley chwarae wrth ochr Williams yw pan adawodd Flores y maes gyda'r anaf yn erbyn QPR wedi 33 munud o chwarae.