Taclo tanau gwair yn ardal Maesteg
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn taclo dau dân gwair sylweddol yn ardal Maesteg.
Cafodd y diffoddwyr o Faesteg a Chwm Ogwr eu galw i drin digwyddiad yn ardal Caerau am 7.36pm nos Fercher.
Yn y cyfamser cafodd diffoddwyr o Fynydd Cynffig a Phen-y-bont ar Ogwr eu galw i daclo tân cynharach ym Mlaencaerau.
Fe gawson nhw gefnogaeth diffoddwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd y gwasanaeth eu galw am 7.07pm.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol