Dros 100 o blant un ysgol yn sâl gyda salwch stumog difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Mynwy wedi dweud bod dros 100 o ddisgyblion ac athrawon wedi eu heffeithio gan salwch mewn ysgol gynradd yng Nghas-Gwent.
Mae disgwyl i Ysgol The Dell agor am 10am ddydd Gwener ar ôl i swyddogion lanhau'r adeilad yn drylwyr dros nos.
Mae dros chwarter y disgyblion wedi eu heffeithio gan salwch stumog difrifol.
Yn ôl y cyngor mae 110 o blant a 15 o staff wedi eu taro'n wael.
Cafodd rhieni eu galw ddydd Iau i gasglu'r plant o'r ysgol yn gynt na'r disgwyl oherwydd y lefel uchel o salwch.
Mae'r ysgol yn annog rhieni i gadw'r plant adref os ydyn nhw wedi bod yn sâl yn ystod y 48 awr ddiwethaf.
Caiff profion eu cynnal.
Dydi hi ddim yn glir eto a'i Norovirus ydi'r salwch.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol