BBC Cymru Fyw

Gleision 22-26 yn cael eu curo o bedwar pwynt yn erbyn Connacht

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionRobin Copeland o'r Gleision yn cael ei daclo gan Michael Swift ac Andrew White
Gleision 22-26 Connacht
Mae buddugoliaeth Connacht yn erbyn Y Gleision wedi rhoi ergyd i'r tîm o Gaerdydd sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.
Cafodd yr ymwelwyr o Iwerddon dri chais o'i gymharu â dau'r Gleision yn y gêm nos Wener ym Mharc yr Arfau.
Cyn y gêm roedd y tîm cartref yn falch o'r newyddion bod y prop Gethin Jenkins wedi ail-arwyddo efo'r rhanbarth o Toulon.
Ond roedd cais Danie Poolman a dau gan Willie Faloon yn drech na'r Gleision.
Fe wnaeth Miah Nikora ychwanegu 11 pwynt gyda thair cic gosb ac un trosgais.
Harry Robinson a Robin Copeland gafodd ceisiau'r tîm cartref wrth i'r maswr Rhys Patchell gicio pedair cic gosb yn llwyddiannus.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Connacht yn erbyn y Gleision yng Nghaerdydd yn y gynghrair.

Ceisiau a chiciau cosb

Daeth dau gais yr ymwelwyr o fewn y pum munud agoriadol.
Cyn yr hanner llwyddodd Robinson i gael cais i'r tîm cartref yn y gornel chwith wedi 20 munud.
Ond methu trosi wnaeth Patchell.
Fe ddaeth pwysau gan y Gleision ar ddechrau'r ail hanner gyda Patchell yn llwyddo gyda dwy gic cosb.
Fe roddodd y dyfarnwr Dudley Phillips gerdyn melyn i Jason Harris-Wright am drosedd ar Lewis Jones.
Roedd gobaith y dorf o weld buddugoliaeth i'r Gleision wedi i Copeland gael cais ar yr awr gan fynd ar y blaen am y tro cyntaf.
Ond doedd hynny ddim am fod wrth i Faloon ruthro ymlaen o'r sgrym am ei ail gais bedwar munud yn ddiweddarach.
Roedd pedwaredd cic gosb Patchell wedi dod a'r ddau dîm o fewn pwynt ond fe wthiodd yr ymwelwyr y Gleision yn ôl i'w 22 eu hunain ac fe gafodd Nikora dri phwynt arall ar ôl trosedd y tîm cartref i sicrhau'r fuddugoliaeth.