Casnewydd 2-1 Telford

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Casnewydd 2-1 Telford

Gan nad oedd Grimsby na Wrecsam gêm gynghrair y penwythnos hwn roedd yna gyfle gwych i Gasnewydd fanteisio a chlosio at frig y tabl wrth groesawu Telford i Rodney Parade.

Digon di-fflach oedd yr hanner cyntaf, ond cyn pen awr o chwarae, y tîm cartref aeth ar y blaen wrth i Christian Jolley rwydo.

Daeth cyfleoedd i'r ddau dîm er bod bwlch mawr rhwng y ddau yn y tabl, ond tîm Justin Edinburgh gafodd yr ail gôl allweddol gyda Danny Crow yn rhwydo wedi 75 munud.

Cafodd cefnogwyr gip cyntaf i weld eu hymosodwr newydd Rhys Griffiths - gynt o Lanelli a Plymouth Argyle - pan ddaeth ymlaen fel eilydd am y deng munud olaf.

Fe gafodd yr ymwelwyr gôl gysur yn y funud olaf diolch i Phil Trainer, ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Gasnewydd, a gan fod ganddyn nhw gemau wrth gefn ar y timau sydd uwch eu pennau, fell all Casnewydd godi i'r brig erbyn yr wythnos nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol