Bangor yn ennill, Prestatyn yn colli
- Published
Daeth rhediad siomedig Bangor o naw gêm heb ennill i ben gyda buddugoliaeth yng Nghaerfyrddin brynhawn Sadwrn.
Les Davies gafodd unig gôl y gêm wedi dim ond 11 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth, ond tybed a yw'r triphwynt wedi dod yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth i dymor Bangor.
Mae Prestatyn wedi bod yn dda ar eu tomen eu hunain y tymor hwn, ond siom gafodd y ffyddloniaid yng Ngerddi Bastion ddydd Sadwrn wrth i'r ymwelwyr o Bort Talbot ennill.
Gôl gynnar gafwyd yma hefyd wrth i Chad Bond sgorio i'r ymwelwyr wedi dim ond naw munud.
Yn hanner isa'r tabl roedd buddugoliaethau i'r Bala oddi cartref yn erbyn Lido Afan, ac i Gei Connah ar daith yn Llanelli.
Ar brynhawn anarferol iawn, llwyddodd yr un o'r timau cartref yn y gemau ddechreuodd yn gynnar i ennill wrth i Aberystwyth gipio pwynt mewn gêm ddi-sgôr yn Y Drenewydd.
A pharhau wnaeth y drefn honno yn y gêm hwyr gyda'r Seintiau Newydd yn ymweld â chartref Airbus UK Brychdyn.
Ryan Fraughan roddodd y pencampwyr ar y blaen yn gynnar cyn i Alex Darlington ychwanegu ail o'r smotyn wedi hanner awr.
Daeth Airbus yn ôl cyn yr egwyl dolch i Chris Budrys, ond daliodd y Seintiau eu gafael ar y fantais i agor bwlch o ddeg pwynt ar frig y tabl.
Canlyniadau'r Sadwrn :-
Caerfyrddin 0-1 Bangor
Prestatyn 0-1 Port Talbot
Lido Afan 0-2 Y Bala
Y Drenewydd 0-0 Aberystwyth
Llanelli 0-1 Cei Connah
Airbus UK Brychdyn 1-2 Y Seintiau Newydd