Medal Aur arall i Becky James
- Published
Yn dilyn ei llwyddiant yn y ras wibio ddydd Sadwrn, mae Becky James o'r Fenni wedi ennill medal aur arall ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Belarws.
Eisoes mae Becky wedi ennill dwy fedal efydd ac un aur yn y bencampwriaeth.
Ddydd Sul fe ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth 'Keirin' i'r merched.
Dyma'r ras lle mae'r cystadleuwyr yn dilyn beic gyda modur arno ar ddechrau'r ras, cyn i hwnnw ymadael cyn y diwedd gan adael i'r beicwyr ymgiprys am y medalau.
Yn dilyn y rhagbrofion, roedd Becky James yn agos i gefn y grŵp oedd yn dilyn y beic, ond rhuthrodd i'r blaen cyn y diwedd i gipio pedwaredd medal o'r Bencampwriaeth.
Mae un o fawrion y gamp, Victoria Pendleton, wedi darogan bod hyn yn ddechrau ar yrfa ddisglair iawn ym myd seiclo i Becky James.