Llofruddiaeth: Mwy o amser i holi

  • Cyhoeddwyd
Police investigation in Bryn Hafod, Wrexham
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam fore Mercher

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dyn yn ei ugeiniau ei arestio fore Sadwrn ar amheuaeth o ladd Glynis Solmaz yn ei chartref yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym Mryn Hafod, Parc Caia, yn y dref am 10:02am fore Mercher, lle daethon nhw o hyd i gorff Ms Solmaz, oedd yn 65 oed.

Mae'r dyn lleol a arestiwyd yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu'r dref.

Dywedodd y Ditectif Prif-Arolygydd Mark Hughes: "Mae sawl gŵys i archwilio sawl cyfeiriad yn Wrecsam wedi cael eu rhoi, ac mae'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn dda gyda sawl trywydd i'r ymchwiliad.

"Byddwn yn apelio eto am gymorth gan y gymuned.

"Gofynnaf i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio'r heddlu yn Wrecsam drwy ffonio 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod P026849.